

WELSH FOLK
DANCE - DAWNSIO GWERIN CYMRU
DAWNSWYR TIPYN O
BOPETH
Pwy, neu beth, yw TOB
Gwahoddiad i Ddawnsio - An Invitation to Dance
I gysylltu â ni - to contact us:
Ffynnonlwyd,
TRELECH,
Caerfyrddin/Carmarthen
SA33 6QZ |
 |
Ffôn/Phone:
0044 (0)1994 484496
e-bost/e-mail:
bobtob@ic24.net |

Grwp o ddawnswyr a
cherddorion yw Dawnswyr Tipyn o Bopeth sy'n arddangos a hyrwyddo dawnsio
traddodiadol Cymru - yma yng Nghymru a thramor. Cafodd y grwp ei enw
oherwydd daw'r aelodau o wahanol rannau o Gymru ac o du draw i Glawdd Offa
wedi eu huno gan eu brwdfrydedd mawr tuag at arddangos dawnsiau Cymru mewn
gwyliau a digwyddiadau eraill.
Prif amcan "Tipyn o Bopeth" ydy cefnogi i'r carn y gwyliau a fynychir gennym
- os eich bwriad yw gorffwyso â'ch traed i fyny, nid yw "Tipyn o Bopeth" i
chi. Rydym yno i ddawnsio a chreu cerddoriaeth ar hyd yr wyl-- gan gynnal
gweithdai, ymweld ag ysbytai, cartrefi'r henoed, ysgolion, i arddangos ar
y strydoedd, i alw twmpathau, cymdeithasu gyda'r bobl leol yn ogystal ag
ymddangos ar lwyfannau'r cyngherddau. Os ydy'r wyl eisiau llenwi bwlch yn ei
rhaglen, rydym yno i'w cynorthwyo, i ateb yr angen.
Rydym o fwriad yn chwilio am y grwpiau dawns lleol wrth fynychu gwyliau - i
sicrhau ffrindiau newydd, i annog cyfnewid ymweliadau ac i brofi y dawnsiau
lleol. Rydym wedi mwynhau llawer i ddawns 'set' mewn nifer o bentrefi a
threfi yn Iwerddon ac mae'n 'Harglwydd Caernarfon' ni yn cael ei dawnsio yn
Sweden!! Bu inni ganfod mai 'Family Waltz' neu 'Circle Waltz' yw'r ddawns 'Cader
Idris' mewn nifer o fannau ar gyfandir Ewrop.
Mae "Tipyn o Bopeth" yn enwog am un peth arall - ffurfio perthynas
carwriaethol!! Rydym wedi dwyn ynghyd nifer sy bellach yn barau priod a
chredwn fod yna berthynas arall "ar y gweill"!
Wedi pum mlynedd ar hugain rydym yn dymuno gweld "TOB" yn parhau am ryw
flwyddyn neu ddwy arall, gan barhau i ddawnsio yn y gwyliau - ambell un
newydd ac ail-ymweld ag eraill gyda'r wisg ddu a gwyn a'r het dal yn tynnu
sylw, yn cychwyn sgwrs a chyfle arall i son am Gymru a'i dawnsiau!!