![]()

WELSH FOLK DANCE - DAWNSIO GWERIN CYMRU
DAWNSWYR TIPYN O BOPETH
Hanes TOB History
Gwahoddiad i Ddawnsio - An Invitation to Dance
I gysylltu â ni - to contact us:
|
Ffynnonlwyd, TRELECH, Caerfyrddin/Carmarthen SA33 6QZ |
|
Ffôn/Phone: 0044 (0)1994 484496 e-bost/e-mail: bobtob@ic24.net |
![]()
TOB's History
The website is almost four years
old while the group is drawing towards its 19th anniversary.
The tales of the early years are yet to be recorded in any detail but
you may read of the team's formation below ....
Tipyn O Bopeth--its origins
Dawnswyr Tipyn o Bopeth" was formed in 1988. The original idea was conceived during an after-dinner conversation at the 'Taplas', at City Hall, Cardiff as part of "Gwyl Ifan" - probably the largest and most successful of the Welsh folk dance festivals. Like-minded festival dancers were contacted to form an 'ad hoc' team to attend future festivals. And "Dawnswyr Tipyn o Bopeth" came into being and has kept on going all these years!!.
During the early years,
most of the events that "Tipyn" attended were the Pan-Celtic Festivals--Lowender
Peran at Perranporth in Cornwall, the Manx festival "Yn Chruinnaght" at
Ramsey, IOM, and the Irish Pan-Celtic Festival held this year (2007), as
last year, at Letterkenny, Co Donegal. Next year it moves again to
Donegal town.
We have continued to support the Irish festival since the first visit to
Killarney in 1989, having travelled with the festival to Galway,
Tralee, Ennis, Kilkenny and Letterkenny.
As the team became
established fresh venues were explored and over the past nineteen years
we have danced in Nottingham, Clitheroe, Ulverston, Hay on Wye, Lorient,
Belgium, Brittany, Southern France Transylvania, Visby - the capital
city of Gotland (Sweden) - and not forgetting our friends with the Nar-Lau
Danslag -- and Varhaug (near Stavanger) in Norway - as well as most of
the dance festivals in Wales.
The main aim of "Tipyn o Bopeth" has been, and still is, to be fully
committed to supporting festivals.
During the summer overseas trips, we have taken part at international
festivals in Transylvania, dancing in temperatures of 40ºC, driven over
a thousand miles back to Mechelen in Belgium for yet another
International Festival. Arriving late on Thursday night we were told
that we were to give an unscheduled display early Friday morning! Never
trust official programmes!!
After nineteen years there are numerous tales of the team's exploits that can be recounted and the more recent history can be found in The Archive..
We also hope that "Tipyn o Bopeth " will be able to continue for a few more years of happy dancing!
Hanes Tipyn O Bopeth
Mae'r wefan erbyn hyn ymron 4 mlwydd
oed tra bod y grwp ei hun yn tynnu tuag at ei benblwydd yn
19 oed. Nid yw hanes y blynyddoedd cynnar wedi ei groniclo'n fanwl ond mae
hanes llunio TOB isod ....
Cychwyn Tipyn O Bopeth
Ffurfiwyd "Dawnswyr Tipyn o Bopeth" ym 1988. Fe eginodd y syniad gwreiddiol
mewn sgwrs wedi cinio amheuthun yn Nhaplas Gwyl Ifan yn Neuadd Dinas
Caerdydd,- un o'r gwyliau mwyaf llwyddiannus yng nghalendr dawnsio gwerin
yng Nghymru.
Penderfynwyd cysylltu â nifer o ddawnswyr eraill o'r un anian er mwyn
ffurfio grwp i fynychu'r wyl y flwyddyn ganlynol. Daeth nifer at ei gilydd
yr adeg hynny ac mae Tipyn o Bopeth yn dal i ddawnsio!! .
Yn ystod y blynyddoedd cynnar, y gwyliau Pan-Geltaidd oedd y digwyddiadau a
fynychwyd gennym yn bennaf -- Lowender Peran ym Mherranporth, Cernyw; Yn
Chruinnaght yn Ramsey ar Ynys Manaw, a'r Wyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon (a
gynhaliwyd y llynedd ac eleni (2007)- yn Leitrceni, Co. Donegal).
Rydym yn parhau i gefnogi'r wyl Wyddelig ers ein hymweliad cyntaf â Chilarni
ym 1989, a symud gyda'r wyl i Galway, Trali, Ennis, Cilceni ac yn awr yn
Leitrceni. Y flwyddyn nesaf cynhelir hi yn nhref Donegal.
Wrth i'r tîm ymsefydlu aethpwyd ati i chwilio am wyliau eraill a thros y
deunaw mlynedd diwethaf rydym wedi dawnsio yn Nottingham, Clitheroe,
Ulverston, Y Gelli Gandryll, Lorient, Fflandrys yng Ngwlad Belg, Llydaw, De
Ffrainc,Transylfania, Visby ar Ynys Gotland (Sweden) - heb anghofio ein
ffrindiau gyda Grwp Dawnsio Nar-Lau -- a Varhaug (ger Stavanger) yn Norwy
….. a nifer fawr o wyliau yng Nghymru hefyd.
Prif amcan "TOB" ydy cefnogi i'r carn y gwyliau a fynychir gennym. Yn ystod
ymweliadau canol haf i wledydd tramor, rydym wedi arddangos mewn gwyliau
gydwladol yn Nhransylfania, gan ddawnsio mewn tymheredd o 40ºCelsius; yna
gyrru mil o filltiroedd yn ôl i Mechelen yng Ngwlad Belg ar gyfer gwyl
gydwladol arall. Wedi cyrraedd yn hwyr nos Iau, cawsom wybod ein bod i
gynnal arddangosfa yn gynnar fore Gwener! Ond dyna yw hanfod "Tipyn"!!
Wedi deunaw mlynedd mae gennym nifer o straeon difyr i'w hadrodd ac mae
hanes y blynyddoedd mwyaf diweddar i'w cael yn
Yr Archif.
Rydym hefyd yn dymuno gweld "Tipyn" yn parhau am flwyddyn neu ddwy arall o ddawnsio'n llon!